Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 12 Mehefin 2024

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13948


215

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Dechreuodd yr eitem am 14.32

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.17

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynnig cyflog diwygiedig Llywodraeth Cymru i BMA Cymru?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.29

Gwnaeth Altaf Hussain ddatganiad am - Wythnos Gofalwyr (10-16 Mehefin).

Gwnaeth Carolyn Thomas ddatganiad am  - 200 mlynedd o’r RSPCA (16 Mehefin).

</AI5>

<AI6>

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 15.33

Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, cafodd y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau eu grwpio ar gyfer dadl ac ar gyfer pleidleisio:

NNDM8609 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Luke Fletcher (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru).

NNDM8610 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Siân Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn lle Luke Fletcher (Plaid Cymru).

NNDM8611 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn lle Llyr Gruffydd (Plaid Cymru).

NNDM8612 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Cefin Campbell (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Heledd Fychan (Plaid Cymru).

NNDM8613 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn lle Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

</AI6>

<AI7>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.34

NDM8601 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:

Yn penodi Dr Ian Rees yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 12 Mehefin 2024 tan 11 Mehefin 2028.

Noder: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Benodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030

Dechreuodd yr eitem am 15.36

NDM8602 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ‘Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030’, a osodwyd ddydd Gwener 15 Mawrth 2024. 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mehefin 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI8>

<AI9>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi economaidd

Dechreuodd yr eitem am 16.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8606 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) cynllun clir a chamau dewr Llywodraeth y DU i bennu llwybr er mwyn sicrhau dyfodol diogel;

b) camau Llywodraeth y DU i leihau chwyddiant o 11.1 y cant i 2.3 y cant;  

c) y ffaith mai’r DU yw’r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7;

d) y bargeinion twf rhanbarthol ym mhob rhan o Gymru, sy'n sicrhau mai Cymru yw’r unig genedl Bargeinion Twf yn y DU; ac

e) porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU yng ngogledd a de Cymru, ynghyd â’i pharthau buddsoddi ar gyfer gweithgynhyrchu uwch.

2. Yn gresynu bod gan Gymru, o dan Lywodraeth Cymru:

a) y gyfradd gyflogaeth isaf;

b) y cyflogau canolrifol isaf; ac

c) y gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd yn y DU.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi drwy:

a) sicrhau ffyniant broydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad;

b) adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau a diogelu swyddi;

c) cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach;

d) galluogi microfusnesau i dyfu gyda chynllun sbardun gan dalu yswiriant gwladol ar ran y cyflogwr ar gyfer dau gyflogai am ddwy flynedd;

e) cyflwyno 150,000 o brentisiaethau newydd yn nhymor y Senedd nesaf; ac

f) creu cynllun i roi hwb i fusnesau lleol, a'i ariannu'n llawn, er mwyn cefnogi egin fusnesau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn croesawu:

a)  cynllun clir Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y ddogfen Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach;

b) y ffaith bod cyflogau wedi codi’n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr ers 2011;

c) y ffaith bod gwaith rhanbarthol a phartneriaethau mor gadarn;

d)  buddsoddiad gwerth dros £143 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn prentisiaethau o safon uchel;

e)  y ffaith bod Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 27,000 o bobl ifanc;

f) y buddsoddiad sydd wedi parhau drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru;

g)  darparu gwerth dros £140m mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n cefnogi trethdalwyr oddeutu 70,000 eiddo ledled Cymru bob blwyddyn; a

h) y cyfraniad o £78m sy’n golygu bod busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi derbyn cymorth bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf gyda’u biliau ardrethi annomestig.

2.  Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth y DU:

a)  diffyg cynllun economaidd a diwydiannol clir heb unrhyw gynlluniau gwario manwl ar ôl 2024-25, gan arwain at 14 o flynyddoedd o anrhefn;

b)  bod prisiau’n parhau i godi ar gyfradd uwch, sy’n golygu mai dyma’r cynnydd mwyaf ers annibyniaeth Banc Lloegr, a’r ffaith eu bod 21.3 y cant yn uwch ym mis Ebrill nag oeddent dair blynedd cyn hynny;

c)  bod gan Lywodraeth Cymru Gyllideb yn 2024-25 sy’n £3 biliwn yn is na chyllideb a fyddai wedi cynyddu yn unol â Chynnyrch Domestig Gros ers 2010; a

d)  bod gan Gymru bron i £1.3 biliwn yn llai o gyllid mewn termau real yn sgil methiant Llywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiadau a chyflwyno cyllid llawn yn lle cyllid yr UE.

3.  Yn galw ar Lywodraeth bresennol y DU i gydnabod:

a)  mai’r newidiadau i’r gyfradd sylfaenol gan Fanc Lloegr a phrisiau ynni is yw’r prif resymau dros y gostyngiad diweddar mewn chwyddiant;

b) bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau bod problemau gyda’r arolwg o’r llafurlu, sy’n parhau i effeithio ar ansawdd data o ran ystadegau’r farchnad lafur ac nad ydynt yn cyflwyno darlun cywir o’r sefyllfa yng Nghymru;

c) y niwed sylweddol a wnaed i’r Economi yn sgil mini-gyllideb drychinebus Liz Truss, sydd wedi golygu bod pobl a theuluoedd yng Nghymru yn talu morgeisi a biliau uwch; a

d) y cafodd y Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin eu datblygu heb lawer o waith cynllunio ac ymgynghori ac maent wedi tanseilio datganoli.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Gwelliant 5 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU sy'n dod i mewn i weithredu i sicrhau dyfodol economaidd Cymru drwy:

a) ceisio sicrhau bod y DU yn ailymuno â marchnad sengl ac undeb tollau'r UE, a hynny ar frys;

b) cael gwared ar fformiwla Barnett, a chyflwyno setliad cyllido teg newydd i Gymru sy'n adlewyrchu anghenion Cymru yn gywir; a

c) sicrhau bod cyfran deg o gyllid allforio'r DU yn cael ei ddarparu i Gymru, a bod cyllid i Gymru a gollwyd o ganlyniad i Brexit yn cael ei adfer.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn croesawu:

a)  cynllun clir Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y ddogfen Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach;

b) y ffaith bod cyflogau wedi codi’n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr ers 2011;

c) y ffaith bod gwaith rhanbarthol a phartneriaethau mor gadarn;

d)  buddsoddiad gwerth dros £143 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn prentisiaethau o safon uchel;

e)  y ffaith bod Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 27,000 o bobl ifanc;

f) y buddsoddiad sydd wedi parhau drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru;

g)  darparu gwerth dros £140m mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n cefnogi trethdalwyr oddeutu 70,000 eiddo ledled Cymru bob blwyddyn; a

h) y cyfraniad o £78m sy’n golygu bod busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi derbyn cymorth bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf gyda’u biliau ardrethi annomestig.

2.  Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth y DU:

a)  diffyg cynllun economaidd a diwydiannol clir heb unrhyw gynlluniau gwario manwl ar ôl 2024-25, gan arwain at 14 o flynyddoedd o anrhefn;

b)  bod prisiau’n parhau i godi ar gyfradd uwch, sy’n golygu mai dyma’r cynnydd mwyaf ers annibyniaeth Banc Lloegr, a’r ffaith eu bod 21.3 y cant yn uwch ym mis Ebrill nag oeddent dair blynedd cyn hynny;

c)  bod gan Lywodraeth Cymru Gyllideb yn 2024-25 sy’n £3 biliwn yn is na chyllideb a fyddai wedi cynyddu yn unol â Chynnyrch Domestig Gros ers 2010; a

d)  bod gan Gymru bron i £1.3 biliwn yn llai o gyllid mewn termau real yn sgil methiant Llywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiadau a chyflwyno cyllid llawn yn lle cyllid yr UE.

3.  Yn galw ar Lywodraeth bresennol y DU i gydnabod:

a)  mai’r newidiadau i’r gyfradd sylfaenol gan Fanc Lloegr a phrisiau ynni is yw’r prif resymau dros y gostyngiad diweddar mewn chwyddiant;

b) bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau bod problemau gyda’r arolwg o’r llafurlu, sy’n parhau i effeithio ar ansawdd data o ran ystadegau’r farchnad lafur ac nad ydynt yn cyflwyno darlun cywir o’r sefyllfa yng Nghymru;

c) y niwed sylweddol a wnaed i’r Economi yn sgil mini-gyllideb drychinebus Liz Truss, sydd wedi golygu bod pobl a theuluoedd yng Nghymru yn talu morgeisi a biliau uwch; a

d) y cafodd y Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin eu datblygu heb lawer o waith cynllunio ac ymgynghori ac maent wedi tanseilio datganoli.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI9>

<AI10>

8       Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dechreuodd yr eitem am 17.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8604 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd wedi asesu'r cynnydd a wnaed gan y Bwrdd ar 84 o argymhellion a oedd wedi'u cynnwys mewn pedwar adroddiad ar wahân ers 2013.

2. Yn gresynu bod chwech o'r 84 o argymhellion wedi'u categoreiddio'n goch, gan ddangos fawr ddim tystiolaeth o weithredu os o gwbl, a bod 41 wedi’u categoreiddio’n ambr, gan ddangs dim ond rhywfaint o dystiolaeth neu dystiolaeth gymedrol o weithredu, dros ddegawd ar ôl cyhoeddi'r adroddiad terfynol.

3. Yn credu bod y cynnydd a wnaed ar weithredu'r argymhellion wedi'i danseilio gan y penderfyniad dadleuol i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithredu argymhellion Adroddiad yr Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig yn llawn ac i nodi amserlenni clir ar gyfer cyflawni hyn; a

b) i gyhoeddi'r cyngor gweinidogol a arweiniodd at y penderfyniad i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall gan nodi'r goblygiadau i ddarpariaeth iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru.

Adroddiad Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Adroddiad wedi ei gynnwys o dudalen 32 (Saesneg yn unig)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Adroddiad Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar Wasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i ddarparu asesiad annibynnol o'r cynnydd a wnaed ers 2013;

b) o'r 84 o argymhellion a wnaed mewn perthynas â phedwar adroddiad blaenorol, canfu Coleg Brenhinol y Seiciatryddion fod y mwyafrif helaeth wedi cael eu gweithredu;

c) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn adroddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn llawn ac y bydd yn ymateb yn ffurfiol iddo yn ei gyfarfod Bwrdd nesaf; a

d) y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu yn y Gogledd fel rhan o'r ymyrraeth mesurau arbennig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

i ymddiheuro i bobl sydd wedi colli anwyliaid a chleifion sydd wedi dod i niwed o ganlyniad i argymhellion heb eu gweithredu a methiant i gyflawni gwelliannau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant  Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

Am 17.37, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 4 munud yn unol â Rheol Sefydlog 12.18.

</AI10>

<AI11>

9       Dadl Plaid Cymru - Polisi cynllunio ar gyfer llinellau pŵer newydd

Dechreuodd yr eitem am 17.41

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8605 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y safbwynt a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef y dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear lle y bo'n bosibl.

2. Yn credu, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, pan fo llinellau pŵer newydd yn cael eu gosod o dan y ddaear y dylid ei wneud drwy ddull aredig ceblau yn hytrach na chloddio ffos agored.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru paragraff 5.7.9 o Bolisi Cynllunio Cymru:

a) i ddileu’r cafeat presennol: ‘Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen cymryd safbwynt cytbwys o ran costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai’n dderbyniol fel arall, yn anhyfyw’; a

b) er mwyn sicrhau bod gosod seilwaith trawsyrru trydan newydd o dan y ddaear yn ofyniad absoliwt yn hytrach na safbwynt a ffefrir, dylai'r polisi nodi: 'dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear.'

Polisi Cynllunio Cymru

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn credu, lle bynnag y bo’n ffisegol bosibl, y dylai llinellau pŵer newydd gael eu gosod o dan y ddaear mewn modd sy’n lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau, yn unol â'r egwyddor ragofalus, y dylid cynnal asesiadau effaith ar iechyd gyda chynigion i osod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear pan fydd eu hagosrwydd at gartrefi yn codi pryderon iechyd difrifol yn y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y safbwynt a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef y dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear lle y bo'n bosibl.

2. Yn credu, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, pan fo llinellau pŵer newydd yn cael eu gosod o dan y ddaear y dylid ei wneud drwy ddull aredig ceblau yn hytrach na chloddio ffos agored.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru paragraff 5.7.9 o Bolisi Cynllunio Cymru:

a) i ddileu’r cafeat presennol: ‘Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen cymryd safbwynt cytbwys o ran costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai’n dderbyniol fel arall, yn anhyfyw’; a

b) er mwyn sicrhau bod gosod seilwaith trawsyrru trydan newydd o dan y ddaear yn ofyniad absoliwt yn hytrach na safbwynt a ffefrir, dylai'r polisi nodi: 'dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear.'

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau, yn unol â'r egwyddor ragofalus, y dylid cynnal asesiadau effaith ar iechyd gyda chynigion i osod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear pan fydd eu hagosrwydd at gartrefi yn codi pryderon iechyd difrifol yn y dyfodol.

Polisi Cynllunio Cymru

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

</AI11>

<AI12>

10    Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.10

</AI12>

<AI13>

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.21

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Mehefin 2024

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>